|
|
|
 |
|
Ynglyn â'r prosiect
Nod
Nod Creu Cyfle- Cultural Explosion yw:
| 1) |
Creu cysylltiadau hir dymor rhwng cyrff creadigol yng Nghymru â rheiny yn deg gwlad ddiweddaraf i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd (sef Latfia, Lithwania, Estonia, Gwlad Pwyl, Hwngari, Gweriniaeth Tsiec, Slofacia, Slofenia, Cyprus a Malta). |
| 2) |
Creu Cyfle i bobol yng Nghymru (yn arbennig pobol ifanc) flasu amrwyiaeth o ddiwylliannau deg gwlad newydd yr Undeb Ewropeaidd. |
| 3) |
Codi ymwybyddiaeth am Gymru a'i diwylliant yn y gwledydd hyn. |
Partneriaid
Prif bartner a'r corf rheoli:
Sefydliad Materion Cymreig
Eraill:
Academi
Canolfan Gerdd William Matthias Music Centre
Cyngor Gwynedd
Dawns i Bawb
S4C
Cefnogwyr
Bwrdd Croeso Cymru
Y WDA
Y Cyngor Prydeinig
Cyngor Celfyddydau Cymru
Canolfan Cymru Ewrop
Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch
Menter Ddiwylliannol
The Centre - canolfan gyfathrebu Ewropeaidd ym Mrwsel
Scotland Europa
Chwarae Teg
Cymdeithas Gwledydd Baltaidd Cymru
Ysgol Syr Hugh Owen
Cywaith Cymru
Bydd cyfle i fwynhau prif elfennau’r prosiect yn y cyngerdd Gala, 19 Chwefror 2006 yn Galeri Caernarfon yng nghwmni Catrin Finch. Yna, ar 20fed o Chwefror, bydd y prosiect yn cyrraedd ei uchafbwynt, gyda chynhadledd Ewropeaidd – “Canllawiau i’r Diwydiannau Creadigol yn yr Ewrop Newydd”. Cliciwch yma am fwy o fanylion.
Cefndir
Mae derbyn 10 aelod wladwriaeth newydd i'r Undeb Ewropeaidd yn agor drysau pwysig newydd i Gymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle i'r UE i ddangos nad yw integreiddiad gwleidyddol yn arwain at unffurfedd diwylliannol.
Mae straeon braw diweddar a ysgogwyd gan y cyfryngau Prydeinig a rhai gwleidyddion am fewnfudo anghyfreithlon, colli swyddi a cholli hunaniaeth wedi arwain at gamddealltwriaeth eang, sgeptigaeth a drwgdybiaeth yng Nghymru fel yng ngweddill Prydain am ehangiad yr UE.
Er arwyddion bod gan bobl Cymru feddwl fwy agored am Ewrop, o gymharu gyda'u cymdogion ym Mhrydain, mae angen eu sicrhau fod y cyfleoedd a gynigir gan yr aelod wladwriaethau newydd yn sylweddol fwy nag unrhyw fygythiad tybiedig.
Yn bennaf oll mae dinasyddion Cymru angen mwy o wybodaeth am ehangiad yr UE a ddigwyddodd ar 1 Mai 2004. Ers hynny, mae llawer o bobl wedi sylwi fod mwy a mwy o bobl o'r gwledydd hynny yn cymryd swyddi na fedrid eu llenwi'n lleol. Mae angen adeiladu pontydd rhwng y wlad y daeth y bobl i fyw ynddi a'r trigolion newydd o aelod wladwriaethau newydd yr UE i osgoi unrhyw densiwn. Y ffordd fwyaf effeithlon o gyflawni hyn yw drwy ddialog ddiwylliannol.
|
|
|
|
|
 |
|
| Gweithgareddau |
Bydd y gweithgareddau isod yn cael eu lawnsio yn ystod Eisteddfod Eryri a'r Cylch (30 Gorffennaf - 6 Awst) ac yn rhan o'r dathliad Gala ar noswyl Cynhadledd Ewropeaidd are gyfer y Diwydiannau Diwylliannol yn Galeri Caernarfon.
...mwy |
|
|
 |
|
| Creu Cyfle- Cultural Explosion yn Eisteddfod Eryri 2005 |
Bydd gan Creu Cyfle- Cultural Explosion babell ar faes yr Eisteddfod lle cynhelir nifer o weithgareddau diwylliannol Cymreig- Ewropeaidd. Bydd cyfle i flasu gwinoedd a bwydydd yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o'r gweithgareddau uchod.
...mwy |
|
|
 |
|
| Creu Cyfle- Cultural Explosion - dathliad Gala - 19 Chwefror 2006 |
Bydd y dathliad Gala yn gyfle i ddathlu holl weithgareddau'r prosiect ar noswyl y gynhadledd Ewropeaidd ar y Diwydiannau Diwylliannol i'w chynnal yn Y Galeri drannoeth.
...mwy |
|
|
 |
|
| Cynhadledd Ewropeaidd Creu Cyfle- Cultural Explosion |
Bydd pobl broffesiynol o ddiwydiannau diwylliannol Cymru ac Ewrop yn dod at ei gilydd i ddarganfod y ffordd orau ymlaen i'r diwydiannau hyn.
...mwy |
|
|
|
|
|
|