|
|
|
 |
|

Latfia mewn 10 pwynt
| 1. |
Prifddinas: |
Riga |
| 2. |
Poblogaeth: |
2.346,000 |
| 3. |
Proffil ethnig: |
Tarddu o Latfia 58.2%, Rwsia 29.9%, gweddill yn tarddu o wledydd yn cynnwys Belarws, Wcrain, Gwlad Pwyl, Lithwania
|
| 4. |
Ffinio gyda: |
Lithwania, Estonia, Rwsia, Belarus |
| 5. |
Prif iaith: |
Latfieg, defnyddir Rwsieg a Saesneg yn helaeth mewn busnes
|
| 6. |
Arian: |
Lats |
| 7. |
Danteithfwyd lleol: |
Digon o bysgod mwg. Mae cawl a selsig hefyd yn boblogaidd ac ar yr adeg gywir mae tartenni mafon gwych. Un i'r dewr yw Balsam Du Riga - gwirod du trwchus 45% alcohol.
|
| 8. |
Proffil o'r wlad: |
Yng Ngogledd-Ddwyrain Ewrop, mae Latfia yn wlad fechan,
wastad gyda choedwigoedd trwchus (a thir corsiog) yng nghanol y 3 gwlad Baltig. Mae'r brifddinas fywiog Riga ar arfordir y Baltig, ac mae digonedd o wyliau cerdd yn y wlad. Mae Latfia yn enghraifft flaenllaw o wlad sy'n cael ei thrawsffurfio'n gyflym eto'n cadw treftadaeth gain gyda chestyll hardd, dyffrynnoedd tlws a thoreth o adeiladau Art Deco.
Mae Latfia ar arfordir dwyreiniol Môr y Baltig, rhwng Estonia i'r gogledd, Lithwania i'r de a Rwsia a Belarws i'r dwyrain. Mae ganddi arwynebedd cymaint â Gwlad Belg a'r Iseldiroedd gyda'i gilydd. Y pwynt uchaf yw 311 metr. Mae'r hinsawdd yn dymherus gyda hafau heulog a chynnes. Y brif afon yw'r Daugava, a fu â rôl bwysig mewn masnach.
Ar ôl yr ail ryfel byd, cafodd Latfia ei hintegreiddio'n llwyr yn yr Undeb Sofietaidd. Gan fod gan y wlad draddodiad amaethyddol a diwydiannol cadarn, aeth llawer o'i gynhyrchiant o'r ffermydd torfol a'r ffatrïoedd newydd i rannau eraill o'r Undeb Sofietaidd. Allfudodd nifer fawr o bobl a daeth Rwsieg yn iaith y mwyafrif. Fel canlyniad, erbyn diwedd yr 80au, dim ond ychydig dros hanner y boblogaeth oedd yn Latfiaid brodorol. Gyda pholisïau newydd ac agwedd agored Mr Gorbachev, cafodd y Gweriniaethau Sofietaidd, yn cynnwys Latfia, beth annibyniaeth economaidd a daeth hunaniaeth Latfia i'r amlwg yn raddol unwaith eto.
Yn olaf yn Awst 1991, ailenillodd Latfia ei hannibyniaeth. Dychwelodd democratiaeth i'r wlad ynghyd â chyflwyno economi marchnad. Ar ôl cyfnod hir heb ddemocratiaeth a rhyddid, dechreuodd Latfia ar gysylltiadau helaeth gyda chenhedloedd eraill democrataidd gan arwain y daith a fyddai'n cyrraedd ei phenllanw gydag aelodaeth yr UE.
|
| 9. |
Diwylliant: |
Mae cerddoriaeth a chaneuon yn bwysig iawn ym mywyd pobl Latfia. Cafodd y wlad sawl cyfansoddwr a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin. Mae'r perfformwyr blaenllaw yn y cyfnod diweddar yn cynnwys y feiolinydd Baiba Sride a Marija Naumova a enillodd gystadleuaeth Eurovision 2002. Mae gwaith arlunwyr a cherflunwyr, yn cynnwys artistiaid cyfoes, i'w gweld yn y llu o orielau sydd yn Riga. Ar ddechrau'r 19g ganrif, codwyd llawer o adeiladau art-nouveau yn Riga. Heddiw, medrir edmygu llawer ohonynt o hyd, rhai ohonynt wedi eu hadfer yn wych. Un o'r penseiri oedd Mikael Eisenstein a anwyd yn Latfia, a thad y gwneuthurydd ffilm enwog Sergei Einstein. Bu'r Latfiaid yn llwyddiannus mewn sawl camp Olympaidd. Romans Vansteins oedd pencampwr seiclo'r byd yn 2000. Friedrich Cander, peiriannydd a dyfeisydd a anwyd yn Riga yn 1887, oedd un o arloeswyr adeiladu rocedi a gyriad jet, a'r cyntaf i gyfrif yn fanwl gywir y pellter i'r blaned Mawrth. Derbyniodd Vilhelm Oswald, a'i cyfoesodd, Wobr Nobel am ddatblygu gwrtaith mwynol nitrogen. |
| 10. |
Wyddech chi: |
Medrir olrhain gwreiddiau'r ffilm Crocodile Dundee yn ôl i bentref Dundaga yn Latfia. |
Cysylltau diddorol
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
Cymru |
|
Cymraeg a Saesneg. Mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd, a'r iaith hynaf fyw ym Mhrydain ac ymysg yr hynaf yn Ewrop. Fe'i siaredir gan fwy na 10% o'r boblogaeth ar hyn o bryd...
...mwy |
|
|
|
|
|
|
|
|
|