|
|
|
 |
|

Lithuania mewn 10 pwynt
| 1. |
Prifddinas: |
Vilnius |
| 2. |
Poblogaeth: |
3.496.000 |
| 3. |
Proffil ethnig: |
(83% Lithuaniaid ethnig; 6.7% o darddiad Pwylaidd; 6.3% o
darddiad Rwseg). Mae tua 1 miliwn o Lithuaniaid yn byw
dramor |
| 4. |
Ffinio gyda: |
Gwlad Pwyl, Rwsia (Kaliningrad), Latfia a Belarus |
| 5. |
Prif iaith: |
Lithuaneg a Rwseg |
| 6. |
Arian: |
Litas Lithuania |
| 7. |
Danteithfwyd lleol: |
Cepelinai - parseli toeslyd wedi'u llenwi gyda chaws, cig neu
fadarch a'u gorchuddio mewn saws hufennog. Kalnapilis yw'r
cwrw lleol gorau ac yn well na Midus, y medd cryfder 60%. |
| 8. |
Proffil y wlad: |
Y wladwriaeth Faltig fwyaf. Mae Lithuania yn dir gwastad gan
bennaf gyda dros 60 milltir o arfordir tywodlyd a 5 parc
cenedlaethol. Gyda threftadaeth ddiwylliannol hudolus,
traddodiadau celf gwerin cyfoethog a hen drefi baroque, mae
Vilnius yn gyflym yn ennill enw iddi'i hun fel 'y Prague
newydd'. Mae Lithuania yn cynnwys gwastadeddau mwyn
(55% o arwynebedd tir yr ardal) a choedwigoedd helaeth
(30.5% o'r wlad). Mae mwy o Lithuania dan goed na
Phrydain Fawr, Ffindir, Norwy, Denmarc, Latfia a Belarus. Yr
afon hwyaf yw'r Nemunas sy'n 937 km mewn hyd (475 km
drwy Liathuania). Mae gan y wlad fwy na 2800 o lynnoedd
yn gorchuddio 1.5% o arwynebedd y wlad.
Y rhan harddaf o Lithuania yw tafod Curonia, "Sahara fach"
Lithuania. Wedi'i chofrestru fel safle treftadaeth byd ym mis
Rhagfyr 2002, ffurfiwyd morlyn a thafod Curonia 5000
mlynedd yn ôl gan donnau enfawr Môr y Baltig; mae rhan
gogleddol y morlyn yn eiddo Lithuania a'r rhan deheuol i'r
Ffederasiwn Rwsaidd (ardal Kaliningrad). Mae tafod Curonia yn ffenomen naturiol hynod. Mae'r darn 50cm o hyd o'r
penrhyn mor gul â 400 metr mewn rhannau. Bellach yn barc
cenedlaethol, mae tafod Curonia yn drysor ecolegol ac yn fan
gorffwys pwysig i tua 15 miliwn o adar yn ystod eu
hymfudiad blynyddol. Mae pum gwarchodfa naturiol yn
Lithuania, 30 parc rhanbarthol a thua 750 o wrthrychau
tirlun wedi'u diogelu. Mae'r ardaloedd wedi eu diogelu yn
cwmpasu 16.9% o gyfanswm ardal coedwig y wlad.
Ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd, meddiannwyd Lithuania
deirgwaith: yn 1940 gan yr USSR fel canlyniad i gytundeb
Natsiaidd-Sofietaidd 1939, yn 1941 gan Natsiaid yr Almaen a
gan yr USSR eto yn 1944 a bu dan eu rheolaeth hwy hyd
1990. Yn 1941 ac eto o 1945-1953, cafodd llawer iawn o
Lithuaniad eu gorfodi i fynd i Siberia (tua 250,000 o bobl).
Yn ystod y rhyfel, ni ddychwelodd tua 220,000 o Iddewon
Lithuania o siambrau nwy y Natsiaid.
Bu gan "Perestroika" Gorbachev yn 1985 effaith hollbwysig
yn Lithuana a'r broses ryddhau, y "Chwyldro Canu". Ym
Mehefin 1988 cynhaliwyd gorymdaith enfawr, yn casglu pobl
o dair Gwladwriaeth y Baltig, ar 50ain mlwyddiant y
cytundeb Natsiaidd-Societaidd ar 23 Awst 1989. Cysylltodd
dwy filiwn o bobl ddwylo mewn "cadwyn Baltig" yn ymestyn
650 cilometr o Vilnius i Tallinn a chanwyd cân rhyddid y
Gwledydd Baltig. Braenarodd Lithuania, y Wladwriaeth
gyntaf yn y Baltig, i ennill annibynniaeth, y ffordd ar gyfer
proses adferiad heddychlon a diwaed yn Latfia ac Estonia. |
| 9. |
Diwylliant: |
Datganodd Unesco Hen Dref Vilnius, yn dyddio o'r 16eg
ganrif, yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1994.
Mae iaith Lithuania ymysg yr hynaf yn Ewrop ac yn aelod o
grwp Baltig o ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Y Lithuaneg,
ymysg yr holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n goroesi, fu
fwyaf llwyddiannus wrth gadw ei system hynafol o ffoneteg
a'r rhan fwyaf o'i nodweddion morffegol. |
| 10. |
Wyddech chi: |
Mae canol daearyddol Ewrop (54°51' gogledd a 25°19'
dwyrain) yn Lithuania, 20 cilomedr i'r gogledd o'r brifddinas
Vilnius. Mae gan Lithuania record ardderchog ym maes
chwaraeon. Mae'r tîm pêl-fasged cenedlaethol ymysg timau
gorau'r byd: yn 1997 enillodd y tîm menywod y
Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Budapest ac enillodd timau'r
dynion sawl medal Olympaidd. Mae dros 300 o Lithuania
wedi ennill 28 medal aur, 19 arian a 54 efydd yn y Gemau
Olympaidd. |
Interesting links
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
Cymru |
|
Cymraeg a Saesneg. Mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd, a'r iaith hynaf fyw ym Mhrydain ac ymysg yr hynaf yn Ewrop. Fe'i siaredir gan fwy na 10% o'r boblogaeth ar hyn o bryd...
...mwy |
|
|
|
|
|
|
|
|
|