|
|
|
 |
|

Gwlad Pwyl mewn 10 pwynt
| 1. |
Prifddinas: |
Warsaw |
| 2. |
Poblogaeth: |
38,654 miliwn |
| 3. |
Proffil ethnig: |
Mae Gwlad Pwyl yn cydnabod 13 o leiafrifoedd cenedlaethol
neu ethnig. |
| 4. |
Ffinio gyda: |
Gweriniaeth Tsiec, yr Almaen, Lithuania, Belarus, Iwcrain
a Slofacia |
| 5. |
Prif iaith: |
Pwyleg. Defnyddir Almaeneg a Saesneg mewn busnes |
| 6. |
Arian: |
Zloty |
| 7. |
Danteithfwyd lleol: |
Zrazy zawijane (rholiau madarch a chig eidion), barsza
(cawl betys) a chwgnau moch. Mae'r Pwyliaid, fel Cymry,
yn yfed llawer o de. Eu harbenigedd yw distyllu
amrywiaeth o Vodka pur a gyda blas. |
| 8. |
Proffil y wlad: |
Yn wlad amaethyddol bron yn sgwâr yng nghanol Ewrop,
mae Gwlad Pwyl yng nghanol cyfnod o ailddyfeisio
sylweddol iawn. Yn y Gogledd mae coedwigoedd, traethau
a llynnoedd wrth ochr y gwastadedd canolog gyda
mynyddoedd yn y De, yn cynnig digon o olygfeydd hardd
gyda llawer o adeiladau Gothic cain a'r Ogof Eirth
ysblennydd yn Klodzko ac ogof Paradwys yn Klelce. Mae
gan Wlad Pwyl 26 o barciau cenedlaethol ac 8 safle
Treftadaeth Byd.
Warsaw yw canolfan economaidd a gwleidyddol y wlad.
Cracow - dinas drydedd fwyaf y wlad, fu ei chanolfan
ddiwylliannol ers y Canol Oesoedd a hi oedd Prifddinas
Diwylliant Ewrop yn 2000. Mae dinasoedd eraill megis Gdansk, Poznan, Lódz o bwysigrwydd Ewropeaidd, fel a
ddangosir gan ymgeisyddiaeth Wroclaw ar gyfer EXPO
2010. Mae Gwlad Pwyl dros 1,000 o flynyddoedd oed. Yn
y XVIg ganrif, dan y Jagielloniaid, roedd Gwlad Pwyl yn un
o'r gwladwriaethau mwyaf cyfoethog a grymus ar y
cyfandir. Ar 3 Mai 1791, cafodd y cyfansoddiad
ysgrifenedig cyntaf yn Ewrop ei gadarnhau gan
Gymanwlad Gwlad Pwyl-Lithuania. Yn fuan wedyn
diflannodd Gwlad Pwyl am 123 mlynedd, gan gael ei
rhannu gan ei chymdogion Rwsia, Awstria a Prussia.
Ailenillodd y wlad ei hannibyniaeth yn 1918 am ddim ond
20 mlynedd, pan ddioddefodd y wlad ddau ymosodiad a
meddiannaeth, yn gyntaf gan yr Almaen dan y Natsïaid ac
yna Rwsia'r Sofietiaid. Yn 1989 daeth yr etholiadau
rhannol rydd cyntaf i'w cynnal yng Ngwlad Pwyl ar ôl y
rhyfel ag ymgyrch deng mlynedd y mudiad Solidarnosk
am ryddid a arweiniodd at drechu rheolwyr comiwnyddol
Gwlad Pwyl. Ymunodd Gwlad Pwyl â NATO yn 1999 a
dechrau negydu ei haelodaeth lawn yn yr Undeb
Ewropeaidd. |
| 9. |
Culture: |
Bu diwylliant Pwylaidd yn rhan gyfannol o ddiwylliant
Ewropeaidd am ganrifoedd. Ymysg y cyfranwyr mwyaf o
wlad Pwyl at ddiwylliant Ewrop mae: y seryddwr
Copernicus, y cyfansoddwr a'r pianydd Fryderyk Chopin
a'r gwyddonydd Maria Curie-Sklodowska. Yn ystod yr
ugain mlynedd diwethaf dyfarnwyd Gwobr Nobel am
lenyddiaeth i ddau fardd Pwylaidd Czeslaw Milosz a
Wislawa Szymborska. Mae cyfansoddwyr byd-adnabyddus
fel Krzysztof Penderecki a Henryk Górecki yn parhau'r
traddodiad cerddorol hir. Bu ffilmiau Andrzej Wajda,
Krzysztof Kieslowski a Roman Polanski wedi bod yn
gyfraniad pwysig i sinema'r byd ac Ewropeaidd. Mae celf a
theatr Gwlad Pwyl yn adnabyddus diolch i weithiau Jerzy
Grotowski, Tadeusz Kantor a Magdalena Abakanowicz. |
| 10. |
Wyddech Chi: |
Y seryddwr Pwylaidd Copernicus oedd y cyntaf i awgrymu
fod y Ddaear yn mynd o amgylch yr haul, ac nid y ffordd
arall yr amgylch. Pwyliad oedd y Pab Ioan Pawl II. |
Cysylltau diddorol
Sefydliadau Gwlad Pwyl
Sefydliadau Rhyngwladol am Wlad Pwyl
Sefydliadau gwyddonol ac academaidd
Sefydliadau an-llywodraethol a thramor yng Ngwlad Pwyl
Sefydliadau Diwylliannol
Ffynonellau eraill o wybodeath am Wlad Pwyl a'r Undeb Ewropeaidd
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
Cymru |
|
Cymraeg a Saesneg. Mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd, a'r iaith hynaf fyw ym Mhrydain ac ymysg yr hynaf yn Ewrop. Fe'i siaredir gan fwy na 10% o'r boblogaeth ar hyn o bryd...
...mwy |
|
|
|
|
|
|
|
|
|