|
|
|
 |
|

Cymru mewn 10 pwynt
| 1. |
Prifddinas: |
Caerdydd |
| 2. |
Poblogaeth: |
2.9¾ miliwn |
| 3. |
Proffil ethnig: |
- |
| 4. |
Ffinio gyda: |
Mae Cymru'n cyd-ffinio â Lloegr a'r Môr Celtaidd |
| 5. |
Prif iaith: |
Cymraeg a Saesneg. Mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd, a'r iaith hynaf fyw ym Mhrydain ac ymysg yr hynaf yn Ewrop. Fe'i siaredir gan fwy na 10% o'r boblogaeth ar hyn o bryd. Mae'r ffigur yn cynyddu ar ôl cyfnod hir o ddirywio, diolch i ymgyrch hir o sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd Seisnigedig. Fodd bynnag, mae'r iaith yn dal i fod dan fygythiad yn 'y fro Gymraeg' yn y gorllewin a'r gogledd. Mae treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn ganlyniad uniongyrchol yr iaith Gymraeg a'i goroesiad. |
| 6. |
Arian: |
Y Bunt Brydeinig |
| 7. |
Local delicacy: |
Mae bara lawr yn saig a baratoir gyda gwymon; gwneir cawl traddodiadol o gig a llysiau; caws pôb ar dost. |
| 8. |
Country profile: |
Mae Cymru ar arfordir canol-orllewinol y Deyrnas Gyfunol. Mae daeareg Cymru wedi llunio hanes y wlad gyda'i thiriogaeth fynyddig yn gaer naturiol yn erbyn ymosodwyr. Methodd y Rhufeiniaid goncro Cymru yn llwyr a bu angen holl rym byddinoedd Normanaidd i wneud hynny. Adeiladwyd y rhan fwyaf o gestyll enfawr Cymru gan y Normaniaid i ddiogelu rhag ymosodiadau. Y prif ddiwydiannau yng Nghymru yn draddodiadol fu amaethyddiaeth, gweithfeydd glo yn y de a chwareli llechi yn y gogledd. Twriodd y Rhufeiniaid am Aur a sefydlwyd llinach y Tuduriaid yma. Ond mae diwylliant neilltuol Cymru yn deillio o'i gwreiddiau Celtaidd.
Mae Cymru yn un o sefydliadau democrataidd newyddaf Ewrop. Yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru dros sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r mesur hwn o ddatganoli yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno polisïau neilltuol i Gymru. Mae'r Cynulliad hefyd yn unigryw drwy fod y sefydliad gwleidyddol cyntaf i ethol 50% o fenywod.
|
| 9. |
Culture: |
Yn cael ei hadnabod fel gwlad y gân, mae Cymru yn llawn chwedlau a cherddoriaeth. Mae Catrin Finch, llywydd y prosiect, a Bryn Terfel yn arwain rhestr o gerddorion o fri rhyngwladol gyda Tom Jones, Shirley Bassey, Katherine Jenkins ac Aled Jones yn flaenllaw. Gweler www.famouswelsh.com am restr lawn o actorion, cerddorion ac artistiaid adnabyddus o Gymru. Yr eisteddfod yw canolbwynt traddodiadol diwylliant Cymraeg, a chynhelir eisteddfodau bach yn rheolaidd ym mhob rhan o'r wlad. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gwyl ddiwylliannol fwyaf Cymru, yn seiliedig ar 800 mlynedd o draddodiad. Mae'n cynnwys amrywiaeth fawr o weithgareddau yn cynnwys cystadlaethau ym mhob agwedd o'r celfyddydau; perfformiadau ymylol a seremonïau mawreddog, yn cynnwys coroni a chadeirio beirdd. Yn ychwanegol at weithgareddau yn y prif bafiliwn, mae'n denu dros 300 o stondinau masnach ynghyd â'r babell len, stiwdio cerdd, theatr dawns a symudiad a theatr bwrpasol. Daw tua 160,000 o ymwelwyr i'r Eisteddfod bob blwyddyn, ac fe'i cynhelir mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn, gan felly ei gwneud yn un o wyliau symudol mwyaf Ewrop. Eleni tro Eryri yw croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol. Stad y Faenol ger Bangor yw'r safle eleni ac fe'i cynhelir rhwng 30 Gorffennaf - 6 Awst 2005. |
| 10. |
Wyddech chi: |
Cymru sydd â'r faner hynaf yn y byd; medrir olrhain draig goch Cymru i'r cyfnod cyn y canol oesoedd. |
Cysylltau Diddorol
 |
www.eisteddfod.org.uk |
 |
www.famouswelsh.com |
 |
Cyngor Celfyddydau Cymru www.artswales.org/ |
 |
Arts Council of Wales www.artswales.org/ |
 |
BBC Cymru ar lein http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/default.stm |
 |
S4C (partner prosiect) www.s4c.co.uk |
 |
Academi (partner prosiect) www.academi.org/ |
 |
Canolfan Gerdd William Mathias (partner prosiect) www.canolfangerddwilliammathias.com |
 |
Dawns i Bawb (partner prosiect) www.dawnsibawb.co.uk |
 |
Cyngor Gwynedd (partner prosiect) www.gwynedd.gov.uk/ |
 |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (partner prosiect) www.wales.gov.uk |
 |
Bwrdd yr Iaith Gymraeg www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/ |
 |
Eisteddfod Gydwladol Caernarfon www.international-eisteddfod.co.uk/ |
 |
Galeri Caernarfon (lleoliad ar gyfer y cyngerdd gala a chynhadledd) www.galericaernarfon.com |
 |
Canolfan Mileniwm Cymru www.wmc.org.uk/ |
 |
Urdd Gobaith Cymru http://www.urdd.net/indexS.html |
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
Cymru |
|
Cymraeg a Saesneg. Mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd, a'r iaith hynaf fyw ym Mhrydain ac ymysg yr hynaf yn Ewrop. Fe'i siaredir gan fwy na 10% o'r boblogaeth ar hyn o bryd...
...mwy |
|
|
|
|
|
|
|
|
|