Logo Pennawd Tudalen Creu Cyfle / Çultural Explosion
Cliciwch i fynd at 'Hafan' Cliciwch i fynd at adran 'Amdanom ni'' section Click to Navigate to the 'News' section Cliciwch i fynd at adran 'Gweithgareddau' Cliciwch i fynd at adran 'Cyngerdd Gala' Cliciwch i fynd at adran 'Cynhadledd' Cliciwch i fynd at adran 'Eisteddfod' Cliciwch i fynd at adran 'Cofrestru Prosiect'' section Click here to view this page in English
Delwedd baner yr Eisteddfod
Eisteddfod
Creu Cyfle- Cultural Explosion yn Eisteddfod Eryri 2005

Bu Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau 2005 yn Eisteddfod llewyrchus iawn ar nifer o lefelau, ac yn enwedig o ran Creu Cyfle – bu’n Eisteddfod brysur a llwyddiannus dros ben. Cawsom lawer o hwyl, a llawer o ymateb positif iawn i’n holl weithgarddau. Bu llawer o fwrlwm yn ein stondin gan lwyddo i ennyn cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau.

Yr Eisteddfod yw gwyl fwyaf Cymru, gyda 800 mlynedd o draddodiad. Mae hefyd yn un o wyliau mwyaf symudol Ewrop. Ceir amrywiaeth o gystadlaethau gan gynnwys celf, cerdd, dawns, llenyddiaeth, gyda seremoniau mawreddog i goroni neu gadeirio prifeirdd. Yn ogystal a'r prif bafiliwn, ceir dros 300 o stondinau ynghyd a theatr, pabell roc, pabell len a phabell ddawns. Dennir dros 160,000 o ymwelwyr i'r Eisteddfod bob blwyddyn. Yn 2005, tro Eryri a'r Cylch oedd croesawu'r wyl, a chafodd ei chynnal ar stad y Faenol ger Bangor rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6.
Digwyddiadau Erailll
Pwynt bwled stori newyddion  
Gweithgareddau
Bydd y gweithgareddau isod yn cael eu lawnsio yn ystod Eisteddfod Eryri a'r Cylch (30 Gorffennaf - 6 Awst) ac yn rhan o'r dathliad Gala ar noswyl Cynhadledd Ewropeaidd are gyfer y Diwydiannau Diwylliannol yn Galeri Caernarfon.
...mwy
Pwynt bwled stori newyddion  
Creu Cyfle- Cultural Explosion - dathliad Gala - 19 Chwefror 2006
Bydd y dathliad Gala yn gyfle i ddathlu holl weithgareddau'r prosiect ar noswyl y gynhadledd Ewropeaidd ar y Diwydiannau Diwylliannol i'w chynnal yn Y Galeri drannoeth.
...mwy
Pwynt bwled stori newyddion  
Cynhadledd Ewropeaidd Creu Cyfle- Cultural Explosion
Bydd pobl broffesiynol o ddiwydiannau diwylliannol Cymru ac Ewrop yn dod at ei gilydd i ddarganfod y ffordd orau ymlaen i'r diwydiannau hyn.
...mwy
Hafan    Amdanom Ni    Newyddion    Gweithgareddau    Cyngerdd Gala    Cynhadledd    Eisteddfod    Cofrestru'r Prosiect    English
Cefnogwyd gan yr Comisiwn Ewropeaidd Baner yr Undeb Ewropeaidd