Logo Pennawd Tudalen Creu Cyfle / Çultural Explosion
Cliciwch i fynd at 'Hafan' Cliciwch i fynd at adran 'Amdanom ni'' section Click to Navigate to the 'News' section Cliciwch i fynd at adran 'Gweithgareddau' Cliciwch i fynd at adran 'Cyngerdd Gala' Cliciwch i fynd at adran 'Cynhadledd' Cliciwch i fynd at adran 'Eisteddfod' Cliciwch i fynd at adran 'Cofrestru Prosiect'' section Click here to view this page in English
Delwedd baner newyddion
Newyddion
Iwan Llwyd yn Creu Cyfle yn Syr Hugh

30/09/2005

Ysgol Syr Hugh Owen yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu i bobl ifanc ar y thema Ewrop Newydd cyn Uwchgynhadledd Ieuenctid Ewrop yng Nghymru fis Hydref.

Mae disgyblion Syr Hugh Owen yr wythos yma yn cael cyfle i greu gwaith newydd fel rhan o gystadleuaeth lenyddol ar yr Ewrop Newydd fel rhan o brosiect Creu Cyfle- Cultural Explosion.

Fel un o bartneriaid Creu Cyfle, Yr Academi sy'n trefnu'r gystadleuaeth a fydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc Cymru o'r deg gwlad newydd Ewrop drwy lenyddiaeth. Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â Uwchgynhadledd Ieuenctid Ewrop yng Nghaerdydd 24-27 o fis Hydref.

Yn dilyn bore o ysbrydoliaeth yng nghwmni'r prifardd Iwan Llwyd, bydd y disgyblion yn gallu cyflwyno gwaith mewn unrhyw ffurf creadigol (e.e barddoniaeth, stori fer neu sgript) ar thema yr Ewrop Newydd. Bydd cyfle i'r disgyblion ddysgu mwy am Ewrop drwy ymweld â gwefan Creu Cyfle.

Dywedodd Iwan Llwyd:
"Y ffordd ore i bobl ifanc o Gymru ddatblygu eu dawn fel sgwenwyr yw i ddarllen gwaith a chyfarfod sgwenwyr ifanc eraill o wledydd eraill. Wedyn fe fedran nhw ennill profiadau a dysgu ffyrdd o fynegi eu hunain yng ngoleuni yr acenion newydd hynny. Fe fydd yr iaith Gymraeg yn tyfu yr un pryd."

Mewn cyfnod yn Ewrop, lle mae llawer yn amharod i gofleidio dinasyddion newydd a'r cyhoedd yn ymddangos wedi diflasu ar y syniad o Ewrop, nod Creu Cyfle yw annog pobl ifanc i gymryd diddordeb yn niwylliannau'r gwledydd newydd sef Gwlad P_yl, Y Weriniaeth Tsiec, Slofenia, Slofacia, Hwngari, Estonia, Cyprus, Malta, Latfia a Lithiwania…

Yn ôl Lisa Roberts, pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Syr Hugh Owen: “Cafwyd amser gwych yng nghwmni Iwan Llwyd ac roedd yn gyfle i'r disgyblion gael enhangu gorwelion a dysgu am yr Ewrop newydd yn ogystal â chyfansoddi cerdd newydd. Dwi'n si_r y bydd llawer o'r disgyblion yn awyddus i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac mae wedi rhoi blas ar ddysgu mwy am yr Ewrop newydd iddynt”

Dyddiad Cau Cystadleuaeth Creu Cyfle yw y 1af o Ragfyr gyda seremoni wobrwyo yn rhan o ddathliad Gala Creu Cyfle yn Galeri Caernarfon ar yr 19eg o Chwefror 2006. Beirniaid y gystadleuaeth iaith Gymraeg yw Bardd Plant Cymru, Mererid Hopwood ac Iwan Llwyd.

Creu Cyfle
Deg baner ond un werin - a'u hieithoedd
Ar un daith gyffredin
Ar eu ffordd i groesi'r ffin
I gae arall, llai gerwin.
Iwan Llwyd


Storïau Newydd Eraill 
Pwynt bwled stori newyddion  
Fideo Cyngerdd Gala Creu Cyfle
Dyma’r fideos a ddangoswyd yn ystod Cyngerdd Gala Creu Cyfle ar yr 19 o Chwefror 2006

Cliciwch botwm dde a
...mwy
Pwynt bwled stori newyddion  
Creu cyfle yn cael ei lansio ym Mrwsel
“Mae diwylliant yn ffordd wych o gyfathrebu. Drwy rannu diwylliant ein gilydd, gallwn adeiladu pontydd dros
...mwy
Pwynt bwled stori newyddion  
Iwan Llwyd yn Creu Cyfle yn Syr Hugh
Ysgol Syr Hugh Owen yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu i bobl ifanc ar y
...mwy
Pwynt bwled stori newyddion  
Creu cyfle i Gymru yn ystod Llywyddiaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd
Bydd Catrin Finch, y delynores fyd enwog o Gymru yr wythnos hon yn croesawu llywyddiaeth y Deyrnas Unedig o’r
...mwy
Dawns i Bawb yn creu cyfle i gysylltu Cymru a Hwngari...mwy
Cyfle i greu gyda Catrin Finch ...mwy
Catrin Finch yn “Creu Cyfle” unigryw...mwy
Hafan    Amdanom Ni    Newyddion    Gweithgareddau    Cyngerdd Gala    Cynhadledd    Eisteddfod    Cofrestru'r Prosiect    English
Cefnogwyd gan yr Comisiwn Ewropeaidd Baner yr Undeb Ewropeaidd