|
|
|
 |
|
Creu cyfle yn cael ei lansio ym Mrwsel
06/12/2005
“Mae diwylliant yn ffordd wych o gyfathrebu. Drwy rannu diwylliant ein gilydd, gallwn adeiladu pontydd dros gyfandiroedd” Catrin Finch – Telynores a Llywydd Creu Cyfle – Cultural Explosion.
Ymgynullodd cynrychiolwyr o’r diwydiannau creadigol o bob rhan o Ewrop ym mis Tachwedd ar gyfer lawnsiad Creu Cyfle ym Mrwsel.
Yn ystod y lawnsiad yn THE CENTRE, Brwsel, perfformiodd y delynores fyd-enwog Catrin Finch ddarnau o gerddoriaeth sydd yn crisialu’r dyheadau o adeiladu pontydd diwylliannol rhwn Cymru a’r Ewrop Newydd a gynrychiolir gan Creu Cyfle: darn hyfryd ‘Moldau’ gan y cyfansoddwr Tsiec Smetana, darn gan y cyfansoddwr Cymreig William Mathias a’r don draddodiadol Bugeilio’r Gwenith Gwyn.
Arweiniodd George Ingber, Dirprwy Bennaeth Uned Gwybodaeth a Chyfathrebu Cyfarwyddiaeth Ehangiad y Comisiwn Ewropeaidd y drafodaeth ar ‘Diwylliant fel modd o gyfathrebu’. Esboniodd sut yr oedd y pontydd rhyngddiwylliannol dros y canrifoedd wedi cyfrannu at yr UE sydd ohoni . Ychwanegodd for diwylliant wedi bod yn arf pwysig i warchod democratiaith rhag totalitariaeth ac yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y datblygiad o Ewrop ehangach ac heddychlon.
Awgrymodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Sefydliad Materion Cymreig a Chyngor Celfyddydau Cymru wrth y gynulleidfa ym Mrwsel y dylai diwylliant chwarae rhan ganolog wrth lenwi’r gwagle sydd yn bodoli yn yr UE yn dilyn y pleidleisiau ‘Na’ yn erbyn Cyfansoddiad yr UE.
Anogodd David Hughes, Aelod o Bwyllgor y Comisiwn Ewropeaidd ar Addysg, Hyfforddiant, Diwylliant ac Amlieithedd, y dylai partneriaeth Creu Cyfle ddechrau meddwl am y prosiectau a’r cyfleoedd nesaf, gan ddyfynnu amryw o raglenni cefnogaeth posib gan y Comisiwn.
Roedd y Comisiynydd dros Ddiwylliant, Jan Figel, yng Nghaerdydd gyda thim Creu Cyfle yn ddiweddar, yn ystod yr Uwchgynhadledd Ieuenctid yng Nghaerdydd ym mis Hydref. (gweler y llun)
Cafodd cynrychiolwyr allweddol ym meysydd diwylliant, ieuenctid a chyfathrebu o bob rhan o Ewrop y cyfle i ddysgu am Creu Cyfle a sut mae’r prosiect wedi bod yn cyfathrebu drwy weithgareddau diwylliannol yng Nghymru. Diolch i Sian Hughes, yn enedigol o Sir Fon ac sydd nawr yn arbenigwraig ar gyfathrebu Ewropeaidd gyda The Centre, ym Mrwsel, am arwain y noson mor broffesiynnol.
Cyflwynwyd y prosiect drwy ddyddiadur fideo, gan ddangos sut mae Creu Cyfle yn rhoi profiadau newydd i bobl ifanc Cymru o’u cymdogion newydd hwy yn Ewrop.
Mae llawer wedi gofyn i’r tim sut y gallant fod yn rhan o’r prosiect. Ein hymateb yw i adeiladu pont eich hun. Dyna pam yr ydym yn trefnu’r Gynhadledd Ewropeaidd a gweithdai datblygu prosiectau ar yr 20fed o fis Chwefror 2006 (mwy o fanylion ar dudalen Cynhadledd y wefan). Gobeithiwn allu helpu sefydliadau sydd a diddordeb i gysidro yr opsiynnau sydd ar gael iddynt er mwyn creu eu cysylltiadau eu hunain a chynnig awgrymiadau ar sut i fynd ati. Bydd gweithdai arbenigol yn y gynhadledd yn cynnig sesiynnau hyfforddi ar gyfleoedd Ewropeaidd newydd ar gyfer y diwydiannau creadigol – sector sydd yn tyfu’n gyflym.
Galeri Caernarfon, canolfan newydd ar gyfer y diwydiannau creadigol a dderbyniodd gymorthdal Ewropeaidd, fydd calon greadigol Ewrop am ddau ddiwrnod ym mis Chwefror 2006.
Bydd Catrin Finch yn llywyddu a chymeryd rhan ar y nos Sul, 19 Chwefror, eto yn Galeri, yn y cyngerdd Gala i ddathlu y pontydd diwyllianol sydd yn cael eu hadeiladu rhwng Cymru a’r ddeg aelod wlad newydd. Yn ymuno a Catrin bydd cerddorion a dawnswyr o rai o’r aelod wledydd newydd yn ogystal a chyfranogwyr y prosiect.
Gwahoddir aelodau allweddol o’r byd diwylliant yng Nghymru i ddatblygu partneriaethau newydd drwy’r cyfryngau, celfyddydau gweledol a pherfformio, iaith, llen a thwristiaeth diwylliannol.
Erbyn hynny, bydd y brithwaith a gomisiynwyd gan Creu Cyfle, a’i greu ar y cyd gan yr artisitaid Andrew Bolton, Maureen O’Kane a disgyblion ysgolion ardal Caernarfon, yn barod i’w ddadorchuddio yn Noc Fictoria. Symbol parhaol o’r cerrig rhyd sydd yn ymddangos rhwng Cymru a’r Ewrop newydd.
|
|
|
|
|
 |
|
| Fideo Cyngerdd Gala Creu Cyfle |
Dyma’r fideos a ddangoswyd yn ystod Cyngerdd Gala Creu Cyfle ar yr 19 o Chwefror 2006
Cliciwch botwm dde a
...mwy |
|
|
|
 |
|
| Creu cyfle yn cael ei lansio ym Mrwsel |
“Mae diwylliant yn ffordd wych o gyfathrebu. Drwy rannu diwylliant ein gilydd, gallwn adeiladu pontydd dros
...mwy |
|
|
|
 |
|
| Iwan Llwyd yn Creu Cyfle yn Syr Hugh |
Ysgol Syr Hugh Owen yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu i bobl ifanc ar y
...mwy |
|
|
|
 |
|
| Creu cyfle i Gymru yn ystod Llywyddiaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd |
Bydd Catrin Finch, y delynores fyd enwog o Gymru yr wythnos hon yn croesawu llywyddiaeth y Deyrnas Unedig o’r
...mwy |
|
|
|
|
|
| Dawns i Bawb yn creu cyfle i gysylltu Cymru a Hwngari...mwy |
|
|
|
|
| Cyfle i greu gyda Catrin Finch ...mwy |
|
|
|
|
| Catrin Finch yn “Creu Cyfle” unigryw...mwy |
|
|
|
|
|
|