Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn felin drafod annibynnol, sydd â’r nod o hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Nid oes ganddo deyrngarwch at yr un grŵp gwlediyddol nac ecnomaidd. Ei unig ddiddordeb yw gweld Cymru’n wlad lwyddiannus i fyw a gweithio ynddi. Cred mai trwy wneud y mwyaf o holl adnoddau deallusol y wlad yn unig y gellir gwneud hynny. Mae’n gwmni cyfyngedig drwy warant (Rhif Cwmni: 02151006) ac yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen: 1078435).