Mae’r IWA yn gweithio gydag ystoed eang o arbenigwyr academaidd ym mhrifysgolion Cymru a thu hwnt. Mae wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Phrifysgol Caerdydd, sy’n golygu y bydd yr IWA yn gweithio gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru ac adrannau eraill er mwyn hyrwyddo amcanion cyffredin. Mae’r IWA hefyd wedi gweithio ar brosiectau gyda Chanolfan Astudiaethau Pellach Prifysgol Caerdydd, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn trafod prosiectau posibl gydag Adran Bancio ac Ariannol Prifysgol Bangor.