English | Sign in | Basket

Menywod yr IWA

Mae Menywod yr IWA yn gangen ‘rhithiol’. Yn debyg i weddill o ganghennau’r IWA, mae ganddi’r rhyddid i osod ei agenda ei hun o fewn amcanion elusennol yr IWA, ac mae’n adrodd yn ôl yn rheoliadd i Fwrdd Ymddiriedolwyr canolog yr IWA. Mae Cadeirydd y gangen, yr Athro Laura McAllister, o Brifysgol 
Lerpwl, hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr IWA.

Mae gan y gangen dri nod:

1.    Cynyddu cyfraniad menywod i’r IWA ac i gymdeithas sifig Cymru’n fwy cyffredinol.
2.    Cynnig syniadau ar gyfer gwaith ymchwil a digwyddiadau sy’n codi proffil pryderon menywod yng Nghymru.
3.    Cynyddu nifer aelodau benywaidd yr IWA.

Yn ystod ei gynhadledd gyntaf ym mis Tachwedd 2009, cyhoeddodd Menywod yr IWA Critical Mass: The Impact and Future of Female representation in the National Assembly for Wales. Mae’r adroddiad hwn, a gyhoeddwyd gyda chefnogaeth Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru, yn asesu effaith llwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol o gael cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran nifer yr Aelodau, ac yn gofyn pa mor gynaliadwy fydd hyn yn y dyfodol.

Ym mis Mawrth 2010 trefnodd Menywod yr IWA gynhadledd genedlaethol, yn dwyn y teitl Making a Mark: Women, the Media and Politics in Wales. Roedd y gynhadledd yn trafod y ffordd y mae menywod yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau a’r rhan y maent yn chwarae ynddynt.