Sefydliad gwirfoddol yw’r IWA sy’n gweithredu drwy gyfrwng amryw o rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol ledled Cyrmu a thu hwnt. Tîm bychan o staff llawn amser sydd ganddo ond mae dylanwad y sefydliad ar fywyd a pholisi cyhoeddus yn dibynnu ar gymorth a chyfraniad ei aelodau – sy’n cynnwys dros 1,000 o aelodau unigol a Chymrodyr, a 130 o aelodau corfforaethol.
Mae’r IWA hefyd yn dibynnu ar gyfranogaeth wirfoddol gan bobl sy’n weithredol ar draws yr holl gymunedau polisi yng Nghymru – yn y Prifysgolion, y pleidiau gwleidyddol a’r Cynulliad, ac mewn sefydliadau fel TUC Cymru, CBI Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Siambr Fasnach De Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Cartrefi Cymru:Community Housing Wales, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cynnal Cymru:Sustain Wales, a Llais Defnyddwyr Cymru.