Gwobrau Ysbrydoli Cymru 2010

Ysbrydoli Cymru well

Y Cynllun Gwobrau

Estynnir gwahoddiad i ddynion a merched sydd wrthi’n cyfrannu at bob rhan o gymdeithas yng Nghymru gystadlu yng Ngwobrau Ysbrydoli Cymru IWA. Rhaid i gystadleuwyr fod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, ond nid oes rhaid iddynt fod wedi byw a gweithio yma drwy gydol eu bywyd.

SUT YDW I'N YMGEISIO?

Gallwch gynnig eich hun ar gyfer y gwobrau neu gallwch enwebu rhywun arall. Ffoniwch ni ar 029 2066 0820 i gael rhagor o wybodaeth neu ffurflen gystadlu, neu anfonwch e-bost at emmabrennan@iwa.org.uk. Neu i ofyn am ffurflen gais, ewch i’n gwefan yn www.iwa.org.uk/inspire neu cwblhewch y dudalen ganol yn y rhaglen hon a’i dychwelyd i IWA drwy ffacs neu’r post. Os byddwch yn enwebu trydydd parti, dylech sicrhau eu bod yn rhoi eu caniatâd cyn i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni cais wedi’u cwblhau.

SUT Y DEWISIR YR ENILLWYR?

Bydd panel o feirniaid yn dewis tri chystadleuydd o bob categori i fynd i’r rownd derfynol. Os byddwch yn cyrraedd y rownd derfynol, bydd angen i chi fynd i gyfarfod â phanel o feirniaid eich categori. Cyhoeddir enillwyr y categorïau yn y seremoni wobrwyo. Ceir manylion ynghylch ble i anfon enwebiad ar ddiwedd y rhaglen hon.

PRYD Y CYFLWYNIR Y GWOBRAU?

Cyhoeddir enillwyr categorïau Gwobrau Ysbrydoli Cymru IWA yn y Seremoni a Chinio Gwobrwyo a gynhelir yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 14 Mehefin 2012. Caiff pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol docyn am ddim i fynychu’r seremoni a’r cyfle i brynu tocynnau ychwanegol am bris gostyngol.

I gadw eich lleoedd, ffoniwch y llinell gymorth ar 029 2066 0820.

www.iwa.org.uk/inspire/c_index.php

©2012 Gwobrau Ysbrydoli Cymru 2012, IWA

Datblygwyd gan Core Web Design