Amgylcheddwr
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan INSPIRE, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a The Waterloo Foundation
Cydnabod cyfraniad eithriadol gan unigolyn i wella amgylchedd Cymru a/neu fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Cymraeg yn y Gweithle
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan The CADCentre (UK) Cyf
Crëwyd y categori hwn i gydnabod sefydliadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus sydd wedi cymryd camau i hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a chynyddu'r defnydd a wneir ohoni yn eu sefydliad, gan gael effaith gadarnhaol. Eleni bydd dwy wobr yn y categori hwn. Un ar gyfer busnesau bach a chanolig ac un ar gyfer sefydliadau mwy o faint.
Y Categorïau
Arweinydd Busnes
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru
Cydnabod cyflawniadau unigolyn sy'n chwarae rhan flaenllaw mewn gweithgarwch busnes yng Nghymru, sydd wedi dangos arweinyddiaeth amlwg yn ei fusnes a/neu yn y gymuned fusnes ehangach.
Addysgwr
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan CBAC
Cydnabod unigolyn, athro, darlithydd neu hyfforddwr yn y gweithle (e.e. a gyflogir mewn ysgol, coleg, prifysgol, hyfforddiant yn y gweithle neu addysg gymunedol) sydd wedi arloesi menter a nodwyd yn enghraifft o arfer da yn ei ardal leol, rhanbarth neu ledled Cymru.
LLAIS DINASYDDION
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan First Great Western
Cydnabod unigolyn sydd wedi gwella'r gymuned y mae'n yn byw ynddi yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol drwy gynnal ymgyrch weithredol neu fel arall drwy annog pobl eraill i gymryd rhan yn y gwaith o wella cymdeithas.
CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL CORFFORAETHOL
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan British Gas
Mae'r categori hwn wedi'i greu er mwyn cydnabod unigolyn neu grŵp o fewn sefydliad sydd wedi ysbrydoli camau gweithredu gan wneud gwahaniaeth sylweddol i les y gymuned y mae'n gweithredu ynddi. Mae'r wobr hon yn agored i unigolion neu grwpiau sy'n gweithio mewn unrhyw sector.
Chwaraeon
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013 Noddir gan Chwaraeon Cymru
Cydnabod cyflawniad eithriadol gan unigolyn sydd wedi ysbrydoli eraill i gyflawni ym maes chwaraeon yn eu cymunedau lleol, eu rhanbarth neu ledled Cymru.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan Western Power Distribution
Cydnabod cyfraniad gweithgareddau yn ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a pheirianneg ym maes gweithgynhyrchu a diwydiant, academia neu'r sector cyhoeddus. Mae'r categori hwn yn rhoi'r cyfle i gystadleuwyr ddangos sut mae eu gweithgareddau wedi bod o fudd i'w meysydd penodol neu o fudd mwy cyffredinol i Gymru.
Y CELFYDDYDAU A DIWYLLIANT
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013
Noddir gan Orchard
Cydnabod cyfraniad eithriadol gan unigolyn i wella enw da Cymru ym myd y celfyddydau a diwylliant. Bydd y categori hwn yn cynnwys pob math o gelfyddyd, gan gynnwys dylunio a phensaernïaeth.
Cyflawnydd Ifanc
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013 Noddir gan Wales & West Utilities
Cydnabod cyflawniad eithriadol gan berson ifanc (o dan 18 oed) mewn unrhyw faes, gan gynnwys y meysydd y cyfeirir atynt yn y categorïau gwobrau eraill, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Nod y categori yw tynnu sylw at fodelau roÌ‚l ysbrydoledig yn niwylliant ieuenctid yng Nghymru.
GWOBR DATBLYGU DIWYDIANNAU CREADIGOL
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 12 Ebrill 2013 Noddir gan Lywodraeth Cymru
Er mwyn cydnabod y cyfleoedd a gynigir yn y sector diwydiannau creadigol digidol, mae Llywodraeth Cymru wedi creu'r wobr hon i nodi busnes neu brosiect sydd wedi manteisio'n llwyddiannus ar gynhyrchion neu wasanaethau creadigol gan ddefnyddio technolegau digidol newydd.