Gwobrau Ysbrydoli Cymru 2013

Rydym yn byw mewn oes newydd o lymder. Nid oes dwywaith amdani ein bod yn wynebu amgylchiadau economaidd llym, ac eto, mae tair blynedd gyntaf Gwobrau Ysbrydoli Cymru’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA), yn dyst i gadernid ysbryd yr unigolion a’r cymunedau yng Nghymru. Mae amgylchiadau anodd yn aml yn dangos pobl ar eu gorau, gan herio eu creadigrwydd a’u natur benderfynol.

Rwy’n sicr y byddwn yn gweld hyn eto yn yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli Cymru IWA 2013 rydym yn eu lansio heddiw. Fel dros y tair blynedd diwethaf, byddwn yn gweld amrywiaeth gyfoethog o dalent ac ysbrydoliaeth, o’r math sy’n symud ein cymdeithas yn ei blaen, gan gyfrannu at ei lles unigol a chymunedol, ein diwylliant, ein hamgylchedd neu’r economi, ac at ansawdd ein bywydau.

Unwaith eto, ein nod yw cydnabod ac anrhydeddu’r dinasyddion gweithgar hynny sy’n arloesi ac yn ysbrydoli yn eu priod feysydd - boed yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r sector gwirfoddol - pobl nad ydynt yn llaesu dwylo ac yn gadael i bobl eraill weithredu, pobl sy’n dangos menter, yn gwneud gwahaniaeth ac yn ysbrydoli eraill.

O’r dechrau, mae’r cynllun wedi ceisio cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd yn ogystal â chyfranogiad gweithredol yn y gymdeithas sifil yng Nghymru. Bydd hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal.

Mae rhywfaint o newidiadau i’n categorïau eleni - yn bennaf ceir categori newydd ar gyfer y cyfryngau digidol - newid a wnaed er mwyn ymateb i ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl.

Ni fyddai wedi bod modd i Wobrau Ysbrydoli Cymru IWA gyrraedd cymaint o bobl heb gymorth ein prif bartner yn y cyfryngau, sef y Western Mail.

Diolch iddynt am eu cefnogaeth hael a brwdfrydig i’r cynllun ers y cychwyn. Diolch o galon hefyd i’r noddwyr newydd a’r rheini sydd wedi dychwelyd i’n cefnogi ni eto eleni.

Felly, anogaf bob un ohonoch i ledaenu’r neges, ac os byddwch yn gweld pobl sy’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon, ewch ati i’w henwebu. Edrychwn ymlaen at glywed a hyrwyddo’r hanesion ysbrydoledig sy’n gwneud y gwobrau hyn mor werth chweil.

Geraint Talfan Davies

Geraint Talfan Davies
Cadeirydd

©2013 Gwobrau Ysbrydoli Cymru 2013, IWA

Datblygwyd gan Core Web Design