Mae’n bleser gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) lansio Gwobrau Ysbrydoli Cymru 2012 IWA. Mae llwyddiant ysgubol y cynllun yn ei ddwy flynedd gyntaf wedi dangos cyfoeth ac amrywiaeth y dalent a’r ymrwymiad ysbrydoledig sydd i’w gweld ledled cymdeithas Cymru.
O ganlyniad i hynny, rydym yn edrych ymlaen at gydnabod unwaith yn rhagor grŵp arall o fodelau rôl sy’n cyfrannu at fywyd yng Nghymru drwy esiampl yn y byd busnes, y gymuned ac ym mhob math o ddinasyddiaeth weithgar.
Rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i ddatblygu cymdeithas flaengar yng Nghymru y mae pob un o’n dinasyddion yn cyfranogi ynddi.
Nod y cynllun gwobrwyo hwn yw dod o hyd i ddynion a merched sy’n gallu arloesi ac ysbrydoli eraill mewn llawer o feysydd gwahanol.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni sy’n cyflwyno cynifer o heriau i fusnesau ac unigolion, a’n cymdeithas yn gyffredinol. Yn fwy nag erioed, mae angen syniadau ac ysbrydoliaeth arnom ynghyd ag unigolion sy’n chwarae rhan.
Bydd y cynllun yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth, yn nodi pwysigrwydd arloesi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, yn annog cyfranogiad yng nghymdeithas sifil Cymru yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal.
Mae IWA yn falch iawn o sicrhau ymrwymiad parhaus y Western Mail fel
prif bartner y prosiect yn y cyfryngau. Rydym hefyd yn falch iawn bod cynifer o noddwyr y llynedd wedi bod mor barod i’n cefnogi eto yn 2012.
Edrychwn ymlaen at glywed a hyrwyddo hanesion ysbrydoledig ein cystadleuwyr a’n henillwyr unwaith eto eleni.

Geraint Talfan Davies
Cadeirydd