NEGES GAN NODDWR RHAGLEN
Mae’n bleser gennym gefnogi Gwobrau Ysbrydoli Cymru, sy’n cydnabod y rôl y mae unigolion a sefydliadau yn ei chwarae ym mywyd Cymru, gan ysbrydoli a chymell y rheini o’u hamgylch fel rydym ninnau hefyd yn ceisio ei wneud
Yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd ohoni a’r farchnad swyddi anodd, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn ymateb i ofynion hyfforddi’r gweithlu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cyflawni’r cymwysterau a’r hyfforddiant seiliedig ar sgiliau cywir sydd eu hangen arnynt i lwyddo a chyflawni i’w llawn botensial.
Rydym yn cyflogi gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig sy’n ymrwymedig i gydnabod cyflawniad dysgwyr drwy gredydau a chymwysterau sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion unigolion a chymunedau yng Nghymru.
Fel y sefydliad dyfarnu - a wnaed yng Nghymru i Gymru - rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i anghenion
dysgwyr a chanolfannau, ac mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr yn ymrwymedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy annog asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob un o’n cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn darparu cymwysterau i gefnogi dysgwyr i wella eu Cymraeg i’w defnyddio wrth ddysgu ac yn y gweithlu.
Ers i ni gael ein sefydlu yn 2009, mae Agored Cymru, sydd â swyddfeydd yng Ngogledd a De Cymru, bellach yn cynnig dros 100 o gymwysterau heb dâl cofrestru, a dim ond dysgwyr sy’n cyflawni eu nodau dysgu sy’n talu. Mae pob un o’r cymwysterau yn cynnig hyblygrwydd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus cyfredol; ac fel corff a gydnabyddir gan Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, gallwn hefyd achredu hyfforddiant mewnol a helpu busnesau i ddarparu ansawdd uchel a sicrwydd ansawdd pwrpasol ar gyfer eich hyfforddiant.
Gyda’n hanes cadarn o greu cymwysterau hyblyg er mwyn dyfarnu cyflawniadau i ddysgwyr yng Nghymru, mae’n bleser gennym gefnogi menter sy’n cydnabod ac yn annog rhagoriaeth ac arloesedd drwy ddathlu’r rheini sy’n byw yng Nghymru ac sy’n ysbrydoli, cymell
ac yn cyfoethogi bywydau eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymunedau.
Hoffwn ddymuno pob lwc i bob enwebai ac edrychaf ymlaen at glywed straeon ysbrydoledig y cystadleuwyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr.
Janet Barlow
Llun o Brif Swyddog Gweithredol Agored Cymru
Agored Cymru yw’r sefydliad dyfarnu yng Nghymru sy’n arbenigo mewn diwallu anghenion pob dysgwr yng Nghymru. Rydym yn datblygu cymwysterau a chyfleoedd achredu er mwyn cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gefnogi dysgwyr o bob oedran yng Nghymru, gan helpu unigolion, cymunedau a chyflogwyr o bob cefndir i allu manteisio ar gyfleoedd dysgu.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad mewn dyfarnu credydau yng Nghymru, mae ein tîm o arbenigwyr yn gweithredu ledled Cymru yn darparu cymorth o ran datblygu’r cwricwlwm a sicrhau ansawdd ac mae’n ymrwymedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy annog asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan weithio gyda mwy na 180 o ganolfannau cydnabyddedig a darparu dysgu galwedigaethol gydol oes mewn partneriaeth â mwy na 400 o sefydliadau ledled Cymru, rydym yn rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni o lefel mynediad i lefel chwech, gan alluogi cynnydd o fewn ystod eang o fframweithiau addysg a hyfforddi.